Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Rhagfyr 2018
Amser:
13.33 -
15.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5042
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC Darren Millar AC |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a Nick Ramsay AC. Roedd Darren Millar AC yn bresennol fel dirprwy.
1.3 Llongyfarchodd y Cadeirydd dros dro Nick Ramsay AC ar enedigaeth ddiweddar ei fab.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunwyd y byddai angen eglurhad pellach gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghylch ei ffigurau absenoldeb oherwydd salwch.
3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'u hymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi; a John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd Tracey Burke i:
· anfon nodyn yn egluro'r gyllideb ar gyfer y dull dwy grant ar gyfer 2019-20, ac yn egluro lle y dyrannwyd y £5 miliwn a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer y cynnig gofal plant;
· gwirio sut y mae adborth ynghylch safbwyntiau awdurdodau lleol yn deillio o'r gwerthusiad interim wedi'i rannu â phob awdurdod lleol;
· cael trafodaeth gyda'r gwerthuswyr ynghylch a fyddai modd enwi'r saith awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun peilot, a hynny er mwyn rhoi cyfle i awdurdodau lleol nad ydynt yn awdurdodau braenaru drafod y dulliau a ddefnyddiwyd;
· anfon rhestr o'r holl grantiau sy'n gysylltiedig â'r dull dau grant ynghyd â'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer 2019-20; a
· rhoi cyngor ar y paratoadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r effaith y gallai Brexit ei chael ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.
3.3 Yn ogystal, cytunodd Tracey Burke i gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl argymhellion yn deillio o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi.
4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chytunodd i:
· geisio eglurhad pellach ar nifer o bwyntiau; a
· threfnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 i graffu ar berfformiad y maes awyr, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer gwaith datblygu yn y tymor canolig a'r tymor hir.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn nodi eu casgliadau ac er mwyn trefnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 at ddibenion craffu ar werthusiad terfynol y Rhaglen Ariannu Hyblyg.
7.1 Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y dylid trafod y cynigion a dychwelyd i'r eitem hon yn y cyfarfod ar 14 Ionawr 2019.
8.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i wneud gwaith ymgysylltu yn unol â'r hyn a fanylwyd yn y papur ar 21 Ionawr 2019.